
"A beautiful gem of a song".
Chris Hawkins, BBC 6 Music
"She has one of those voices that makes you feel like you’re engaged in a liberating experience".
Fatea Magazine
"Simply beautiful, I had to play it again and again.
Belles and Gals
Bydd rhai yn ei hadnabod fel 'Sarah Louise' - cantores ifanc Siocled a Gwin, Promenâd, Tir na nog a chaneuon eraill, (rhwng 2005-2007) yn ystod ei chyfnod gyda Recordiau Sain. Ers hynny, yn y deng mlynedd diwethaf mai wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth Cymraeg a Saesneg o dan yr enw SERA, - yn perfformio yng Nghymru a thramor, yn datblygu sain 'Americana' ei hun, cyd sgwennu gyda nifer o gerddorion adnabyddus, yn ogystal â gweithio fel trefnwr digwyddiadau ac ymarferydd creadigol.
Mae wedi perfformio yn Ŵyl Rhif 6, Focus Wales, Gŵyl Gymreig Gogledd America, BBC New Talent, wedi bod yn un o enillydd PRS Foundation (Gwobr Lyndsey du Paul)
Pianydd a chyfansoddwr caneuon yn gyntaf, ac wedi dysgu'r gitâr yn hwyrach. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mai wedi treulio amser yn y stiwdio yn gweithio ac yn ysgrifennu gyda'r cynhyrchydd Andi Bonsai, gan edrych ar y storïau go iawn yr oedd hi eisiau eu dweud gyda sain a oedd yn cyfateb i'w huchelgais. Y canlyniad yw casgliad o ganeuon a ysbrydolwyd gan bryder, cariad a bydau coll. Mae i gyd yno.
Bydd 2019 yn gweld cyfres o gigs sy'n arwain at albwm ar ddiwedd y flwyddyn .... cadwch lygad allan am ddyddiadau!
All music can be found on Spotify, from her first release way back in 2005 as Sarah Louise / Sarah Louise Owen with Sain Records and Folkal, through to the stage name change from 2014 to SERA and further releases on Folkstock and CEG Records.

Mae'r pianydd, chwaraewr gitâr a chanwr-gyfansoddwr, SERA (Sera Zyborska) wedi bod yn ysgrifennu, recordio a pherfformio yn Saesneg a Chymraeg ers tro. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae SERA wedi treulio amser yn y stiwdio yn gweithio ac yn ysgrifennu gyda'r cynhyrchydd Andi Crutwell-Jones, gan edrych ar y straeon yr oedd hi am eu hadrodd gyda'r sain a oedd yn cyfateb i'w huchelgais. Y canlyniad oedd casgliad o ganeuon a ysbrydolwyd gan bryder, cariad, hiraeth, achau, gwrachod, llongau a bydoedd coll. Mae'r cyfan yno.
Cafodd ei fagu yng Nghaernarfon, lle sy'n llawn hanes, diwylliant, rhwng Mynyddoedd Eryri a'r môr Iwerddon. Fe allech chi ddeall ei chariad at lên gwerin a sut mae tirwedd yn ffynhonnell ysbrydoliaeth y tu ôl i'w cherddoriaeth.
Dewiswyd SERA fel artist BBC Gorwelion ar gyfer 2019-2020, a chwaraeodd sesiwn fyw yn stiwdios chwedlonol BBC Maida Vale.
Yn ystod y flwyddyn hon bydd SERA hefyd yn rhyddhau caneuon o'i halbwm sydd i ddod yn haf 2020. Mae SERA hefyd yn rhan o'r band Americana newydd TAPESTRI gyda Lowri Evans a'r ddeuawd werin EVE & SERA gydag Eve Goodman.