

Hello
“Beautiful and beguiling” Adam Walton, BBC Radio Wales
“Un o 6 artist a ddewiswyd i gynrychioli Cymru yn y Global Music Match gyntaf, cydweithrediad rhwng 14 gwlad sy'n ceisio codi proffil artistiaid mewn marchnadoedd cerddoriaeth Rhyngwladol” FOCUS Wales
Bydd Sera Zyborska (o Gaernarfon) a Lowri Evans (o Drefdraeth Sir Benfro) yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd miwsig Cymru fel artistiaid dwyieithog sydd wedi bod yn ysgrifennu, perfformio a recordio yn unigol ers amser. Rhyngddynt maent wedi cael eu hyrwyddo ar BBC 6 Music, Radio 2, wedi perfformio ym mhobman o ŵyl y Dyn Gwyrdd i Gŵyl Rhif 6, o King Tut’s yn Glasgow i’r Union Chapel; O Gymru i America i Ffrainc, sydd fel mae'n digwydd, lle bu’r ddwy yn cyfarfod am y tro cyntaf y llynedd, wrth berfformio ym mhafiliwn Cymru yng ngŵyl Lorient yn Awst 2019.
Sbardunodd y cyfarfod cyntaf hwn syniad i ffurfio band gyda merched ar y blaen, a chreu eu brand eu hunain o ‘Americana’; band â all berfformio ar lwyfannau mawr a chynrychioli lleisiau menywod. Wedi’i ysbrydoli gan The Highwomen, ‘supergroup’ o’r Unol Daleithiau sy’n cynnwys Brandi Carlile ac Amanda Shires, a ffurfiodd fel ymateb i ddiffyg cynrychiolaeth artistiaid benywaidd ar radio a gwyliau canu gwlad.
Mae ei caneuon yn cymryd eu lliwiau cerddorol o balet eang sy'n cynnwys Americana, ‘Roots’, Gwerin a Gwlad.
Mae nhw wedi cael dechrau anodd a dweud y lleiaf. Roedd Tapestri am lansio mewn sioe yn Y Galeri Caernarfon yn ôl ym mis Chwefror, ond cafodd ei ganslo oherwydd difrod i'r theatr gan Storm Ciara. Yna fe gafodd ei phlaniau i recordio a rhyddhau EP a mynd ar daith haf, fel gyda llawer o artistiaid a bandiau eraill, ei effeithio gan amodau Covid-19. Ond er eu bod yn byw 4 awr ar wahân, mae Lowri a Sera wedi llwyddo i barhau i weithio ar eu recordiadau.
Fe wnaethant ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Y Fflam’ sef y fersiwn Gymraeg o ‘Open Flame’ yn ôl ym mis Gorffennaf i adolygiadau arbennig, ac roedd yn 'Trac yr Wythnos’ ar BBC Radio Cymru. Mae'n dal i fod ar y rhestr chwarae heddiw. Fe'u dewiswyd hefyd fel un o 6 artist i gynrychioli Cymru yn y digwyddiad byd-eang gyntaf o 'Global Music Match; https://globalmusicmatch.com Fe'u dewiswyd hefyd ar gyfer gŵyl ddigidol 'Out of Focus' https://www.focuswales.com/outoffocus/ a gynhelir ym mis Medi.
